Skip to main content
Dogfennau Cymraeg

Cymru Wales

Dogfennau Cymraeg

This page is in Welsh. If you would rather discuss Welsh-language documents in English, that is entirely fine — use the same enquiry form and write in whichever language suits you.

Dogfennau Cymraeg

Mae'r ddyletswydd yn teithio i lawr y gadwyn gyflenwi

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw'r dyletswyddau hynny'n dod i ben wrth ddrws ffrynt y sefydliad ei hun — maent yn cael eu trosglwyddo i gyflenwyr, mewn contractau. Os ydych yn cyflenwi corff cyhoeddus yng Nghymru, mae'n bosibl bod gennych gymal eisoes nad oes neb wedi edrych arno ers y tendr.

Pam fod hyn o bwys

Dau reswm, ac un ohonynt heb ddim i'w wneud â chydymffurfio

Cynghorau, byrddau iechyd, prifysgolion, awdurdodau parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ei hun — mae gan bob un ohonynt safonau'r Gymraeg i'w bodloni. Pan fyddant yn prynu gennych chi, mae rhan o'r baich hwnnw'n symud atoch chi.

Dyna'r rheswm cyntaf, a'r un lleiaf diddorol. Dyma'r ail: os yw eich staff yn gweithio yn Gymraeg, mae polisi defnydd derbyniol a ysgrifennwyd yn Saesneg yn bolisi a gaiff ei ddarllen yn llai gofalus. Nid mater o gydymffurfio yw hynny. Mater o a yw'r rheolaeth yn gweithio ai peidio.

Nid oes angen i chi fod yn sefydliad Cymraeg i fod angen dogfennau Cymraeg.

Yr un sy'n cael ei anghofio

Y llythyr y mae'n rhaid i chi ei anfon

Y ddogfen nad oes neb yn meddwl amdani nes bod ei hangen ar frys yw'r llythyr at y bobl yr effeithiwyd arnynt.

O dan Erthygl 34 o UK GDPR, pan fo tor data personol yn debygol o arwain at risg uchel i hawliau a rhyddidau unigolion, rhaid i chi roi gwybod iddynt heb oedi diangen — ac mewn iaith glir a syml. Os yw'r bobl hynny'n siarad Cymraeg ac yn delio â chorff cyhoeddus yng Nghymru, mae ateb amlwg i'r cwestiwn beth yn union yw iaith glir a syml.

Nid dau o'r gloch y bore, yng nghanol digwyddiad, yw'r adeg i ddechrau chwilio am gyfieithydd.

Beth sydd gennym

Dogfennau a baratown yn Gymraeg

Rydym yn paratoi'r dogfennau hyn yn Gymraeg ar gais. Nid stoc parod mohonynt. Caiff pob un ei llunio ar gyfer eich sefydliad chi, ei chyfieithu, ac yna ei gwirio gan siaradwr Cymraeg iaith gyntaf cyn i chi ei chael.

  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Polisi diogelu data
  • Polisi defnydd derbyniol ar gyfer staff
  • Cyfarwyddiadau i staff ar roi gwybod am ddigwyddiad
  • Llythyr hysbysu at unigolion yr effeithiwyd arnynt, o dan Erthygl 34
  • Crynodeb i'r bwrdd
  • Deunydd ymwybyddiaeth seiber i staff

Dywedwch wrthym pa rai sydd eu hangen arnoch a byddwn yn rhoi pris a dyddiad i chi.

Gonestrwydd

Beth nad ydym yn ei honni

Nid ydym yn defnyddio cyfieithu peirianyddol ar gyfer dim byd y bydd rheoleiddiwr, llys neu gwsmer yn ei ddarllen. Mae peiriant yn ddigon da i ddeall dogfen; nid yw'n ddigon da i'w chyhoeddi.

Lle bo dogfen yn dyfynnu deddfwriaeth y DU, rydym yn rhoi'r testun Saesneg a'r Gymraeg wrth ei ymyl, oherwydd mai'r Saesneg yw'r testun gweithredol ar gyfer yr offerynnau hynny.

Nid sefydliad Cymraeg mohonom. Yn Saesneg y mae ein cynghorwyr yn gweithio. Os oes angen y gwaith cynghori ei hun arnoch drwy gyfrwng y Gymraeg — sesiwn bwrdd yn Gymraeg, dyweder — dywedwch hynny wrth ymholi, a byddwn yn dweud wrthych yn onest a allwn ei wneud.

Mae'n well gennym ddweud na allwn wneud rhywbeth na'i wneud yn wael.

Mae croeso i chi ysgrifennu atom yn Gymraeg. Os hoffech gael ateb yn Gymraeg, dywedwch hynny wrth ymholi a rhowch ychydig mwy o amser i ni.

Holi am ddogfennau Cymraeg

Standards we assess against

ISO/IEC 27001:2022 · ISO/IEC 27701:2025 · ISO 9001:2015 · ISO/IEC 42001:2023 · ISO/IEC 23894:2023 (guidance) · ISO/IEC 42005:2025 (guidance)

UK Cyber-Safe is an independent assessment practice. We are not a certification body and we do not issue certificates.

United Kingdom Cyber-Safe is a trading name of Eurologix Security Holding Group Ltd, registered in England and Wales, company number 11660724. Registered office: 128 City Road, London EC1V 2NX. Operating address: 1 St Peter’s Square, Manchester M2 3AE.